top of page
Grwp Gwyrdd ac Eco

Y Grŵp Gwyrdd ac Eco

Gwaith y grwp yma yw trafod materion 'Gwyrdd' a Chynaladwyedd.

​

AIL-GYLCHU

  • Rydym yn ailgylch papur, cerdyn, poteli llefrith bach, darnau plastic o'r dosbarth ac unrhyw beth allwn ailgylchu.

  • Rydym yn hybu ail-gylchu

  • Rydym yn ail-gylchu gwastraff bwyd amseroedd egwyl ac amser cinio.

  • Rydym yn hyrwyddo bod yn gymuned lleol yn ail-gylchu dillad sydd ddim yn cael defnydd bellach a.y.y.b. drwy lenwi Banc Dillad TYDDYN MON sydd ar safle. Caiff hwn ei lenwi yn aml ac mae'r pwynt ail-gylch dillad sydd yma ymysg un o'r rhai gaiff y denydd mwyaf.

​

AIL-DDEFNYDDIO

  • Rydym yn ail-ddefnyddio papur sgrap.

  • Rydym yn creosawu hen wisg ysgol sydd wedi mynd yn rhy fach i blant.

  • Rydym yn croesawu hen ddillad Addysg Gorfforol (siorts a crysau T) ar gyfer defnydd plant sydd heb ddillad Adsdysg Gorfforol neu yn anghofio dod a'u dillad AG i'r ysgol  - fel bod neb yn methu allan.

​

LLEIHAU

  • Rydym yn awyddus i ddefnyddio llai o egni nag sydd raid drwy droi golau allan wrth adael ystafell.

  • Mae system goleuadau sy'n ymateb i symudiad neu dim symudiad wedi'i osod yn yr ysgol.

  • Mae'r nenfwd yn y dosbarthiadau wedi'i ostwng i wella lefel goleuni ac i gynhesu'r ystafelloedd.

  • Mae synhwyrydd tymheredd yn y dosbarthiadau sydd yn rheoli os yw'r gwresogyddion yn chwythu a'i peidio.

  • Defnyddiwn sychwr llaw a lleihau y defnydd o dyweli llaw papur.

  • Mae rhai aelodau staff yn rhannu 'lifft' i'r ysgol.

  • Rydym yn rhannu teithiau bws i weithgareddau lleol (os yw hynny yn bosibl) gyda ysgolion eraill.

​

Recycle-points-icons.png
WAW-Icon-col-hi-res.jpg
recycling symbol.png
Dollarphotoclub_75791056-624x450.jpg
4448_Bin-Ailgylchu.jpg
51IYTaYWEbL._SY450_.jpg
tyddyn mon.jpg
Grwp Ffitrwydd a Chwaraeon / YSGOL IACH
fruits.jpg
Rugby Balls
beic.jpg
Urdd YM.png

Siop Ffrwythau'r Ysgol

Y plant sydd eisiau'r Siop Ffrwythau. Mae o wedi bod yn cael ei gynnal ers sawl blwyddyn erbyn hyn a disgyblion o Blwyddyn 6 sydd yn ei redeg yn ddyddiol.

​

Dyma eiriau RHIANNON (B6):

Bydd y siop ffrwythau ar agor amser chwarae cyntaf bob bore am 10.30am  ac yn aros ar agor rhwng 5-8 munud er mwyn i bawb gael cyfle i gael ffrwyth os ydyn nhw eisiau. Cost pob eitem o ffrwyth i'w brynu yw 20c. Gellir talu £1 ar ddechrau'r wythnos am yr wythnos llawn.

Y dewis ffrwythau ar gael yw ffrwchnedd, afalau a rheisins.

Y Cyngor Ysgol a'r plant sydd yn trafod a dewis y ffrwythau fydd ar gael.

​

Bydd dau ddisgybl gwahanol o flwyddyn 6 yn paru i gynnal y siop pob wythnos.

​

Diolch.

​

Llysgenhadon Amser Chwarae a Chwaraeon

Llysgenhadon Chwaraeon yr ysgol ar gyfer 2019 / 2020 yw Efa ac Aaron (B6).

​

​

Gwersi Beicio

Bob blwyddyn bydd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cael gwersi beicio diogel drwy Adran Priffyrdd Cyngor Sir Ynys Mon. Rhaid i bawb wisgo helmed diogelwch eu hunain ar gyfer y gwersi yma. Ydi beic pawb yn ddiogel? Mae'r gwersi yn dysgu pawb beth sydd angen sylw ar feic.

​

CLWB CHWARAEON YR URDD

Mae'r Urdd yn cynnig cyfres o sesiynnau CHWARAEON CYMYSG sydd yn agored i blant Blwyddyn 1 i 6. Pan caiff rhain eu cynnig, bydd y Clwb ymlaen ar ol ysgol ar Nos Lun 3.30-4.30. Nodwch bod yr Urdd yn codi £1.50 i gymryd rhan. Adran Chwraeon yr Urdd Ynys Mon sydd yn rhedeg y clwb yma. 

Grwp Iechyd a Diogelwch

Grŵp Iechyd a Diogelwch

Disgyblion o Blwyddyn 3,4 5 a 6 sydd yn rhan o'r grwp  yma.

​

Bydd y grŵp yn edrych am a thrafod agweddau diogelwch ac yn trafod hynny a'u syniadau gyda'r Prifathro.

​

Cyngor Ysgol

Bydd y grŵp yn edrych am a thrafod pob math o agweddau am fywyd ysgol a syniadau ar sut i  symud YGB yn ei blaen gyda'r Prifathro.

​

​

bottom of page