top of page

Y Gymraeg

 

Mae bron i 60% o drigolion Ynys Môn yn siarad Cymraeg. Dyma un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru i fod.

 

Beth yw’r fantais o fedru siarad Cymraeg?

  • Mae dwyieithrwydd yn gwella cyfleoedd i gael gwaith, ac yn agor mwy o ddrysau

  • Mae pobl yn gwerthfawrogi cael cynnig gwasanaeth yn eu mamiaith – ac yn medru trafod materion yn haws yn eu iaith gyntaf

  • Mae ymchwil yn dangos fod dwyieithrwydd yn arafu dementia a symptomau eraill Alzheimer

  • Mae pobl dwyieithog yng Nghymru yn ennill rhwng 8%-10% yn fwy o gyflog bob blwyddyn o’i gymharu efo pobl sy’n siarad un iaith yn unig.

 

Ond fydd dysgu a siarad dwy iaith yn fy nal fi neu fy mhlentyn yn ôl?

  • Yn aml, mae plant mewn ysgolion dwyieithog ar y blaen wrth ddarllen a chyfriMae pobl unieithog yn lleiafrif yn y byd. Mae 2/3 o boblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith.

  • Tydi dsgu Cymraeg ddim yn effeithio ar ddysgu Saesneg. Mae ymchwil yn dangos ei fod yn gwella cyfathrebu cyffredinol.

  • Nid oes angen gwneud ymdrech ychwanegol i siarad Saesneg efo plentyn Cymraeg. Bydd yn debygol iawn o ddysgu Saesneg yn naturiol.

 

Mae'r Gymraeg yn werthfawr, yn ffrwyth blynyddoedd o ddefnydd, o ddatblygiad, o frwydr oesau i'w ddefnyddio, ei gadw a'i hamddiffyn. Mae'r Gymraeg yn rhan o waead ac etifeddiaeth ein gwlad. Mae'n ddyletswydd arnom i'w throsglwyddo i'n plant ac i blant ein plant.

 

Beth bynnag yw safon Cymraeg rhywun, dylid ystyried ei fod yn ddigon da! Dim ots sut mae rhywun yn siarad, drwy ei siarad a'i ddefnyddio bydd hyder, cywirdeb iaith a geirfa yn gwella.

bottom of page